Rhif y ddeiseb: P-06-1230

Teitl y ddeiseb: Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato

Testun y ddeiseb:

Mae llawer o bobl nad ydynt yn gwybod ble mae eu diffibriliwr agosaf.

Pe bai diffibriliwr wedi'i osod y tu allan i bob ysgol ar giât / ffens / wal allanol, yna byddai pawb yn gwybod, pe bai angen diffibriliwr arnynt, dim ond edrych am eu hysgol agosaf fyddai ei angen arnynt i ddod o hyd i’r offer hanfodol hwn.

Ni ddylid cyfyngu mynediad at ddyfeisiau mewn lleoliadau pan fydd y sefydliad ar agor yn unig. Mae mynediad cyhoeddus 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn hanfodol.

 

 


1.        Cefndir

Mae Taflen ffeithiau Cymru a gyhoeddwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon (Gorffennaf 2021) yn tynnu sylw at y canlynol:

Mae ataliad ar y galon, pan fo’r galon yn stopio pwmpio gwaed o amgylch y corff, yn argyfwng meddygol critigol. Oni chaiff ei drin ar unwaith, mae'n arwain at farwolaeth ymhen munudau.

§    Mae tua 2,800 achos o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn.

§    Yng Nghymru, dim ond un ym mhob ugain sy’n byw ar ôl cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.

§    Mae’r siawns y bydd y claf yn byw yn lleihau hyd at 10 y cant am bob munud na fydd dulliau adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibriliwr yn cael eu defnyddio.

§    Gall CPR fwy na dyblu'r siawns y bydd y claf yn byw mewn rhai achosion (ffibriliad fentriglaidd).

§    Amcangyfrifir bod diffibrilwyr sydd ar gael i’r cyhoedd (PADs) yn cael eu defnyddio mewn llai na 10 y cant o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun ar gyfer ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Yn hwn, nodir bod codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hollbwysig i sicrhau eu bod yn adnabod arwyddion ataliad y galon ac yn ymyrryd mewn da bryd. Os bydd rhywun gerllaw yn dechrau CPR, nodir bod dwywaith neu bedair gwaith mwy o siawns y bydd y claf yn byw ac, os defnyddir diffibriliwr o fewn 3-5 munud ar ôl i’r claf gwympo, gall y siawns y bydd yn byw wella’n sylweddol. 

Mae'r cynllun yn cynnwys y canlyniadau a’r camau gweithredu allweddol a ganlyn:

§    Mae diffibrilwyr hygyrch ar gael i’r cyhoedd.

§    Mae’r cyhoedd yn gwybod ei bod yn hawdd defnyddio diffibrilwyr ac na fyddant yn gallu achosi niwed.

§    Cydweithio i sicrhau bod yr holl ddiffibrilwyr yn cael eu mapio i sicrhau eu bod yn fwy hygyrch a bod mwy ohonynt ar gael i’w defnyddio.

§    Sicrhau bod protocolau a gweithdrefnau clir ar waith fel bod diffibrilwyr ar gael i’w defnyddio bob amser

Ar 15 Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu’r Cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. Mae’n nodi’r canlynol:

Yn y gorffennol, y rhai sy’n prynu diffibrilwyr sydd wedi penderfynu ar eu lleoliad. Mae Rhwydwaith Cardiaidd Cymru, ar y cyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, wedi mapio lleoliadau’r holl ddiffibrilwyr sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru. Mae'r wybodaeth hon, ynghyd â data am leoliad pob ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, yn dangos bod angen meddwl yn fwy strategol wrth brynu diffibrilwyr newydd.

Mae’r datganiad yn tynnu sylw at y canlynol:

§    Mae rhaglen Arbed Bywyd Cymru (sy’n dwyn sefydliadau ledled Cymru ynghyd i helpu i ddatblygu sgiliau CPR y cyhoedd a’u dysgu sut i ddefnyddio diffibrilwyr) yn recriwtio rheolwr clinigol ar gyfer y rhaglen ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty, i ddatblygu fframwaith i oruchwylio lleoliad diffibrilwyr a sut y cânt eu rheoli ac mae hefyd yn recriwtio saith cydlynydd cymunedol Achub Bywydau Cymru.

§    Mae cymunedau a sefydliadau sydd â diffibrilwyr eisoes yn cael eu hannog i'w cofrestru ar The Circuit (dyma'r rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol sy'n rhoi darlun cenedlaethol o leoliad diffibriliwyr).

§    Tra bod mwy na 5,420 o ddiffibrilwyr yng Nghymru wedi'u cofrestru, mae ychydig llai na 50% o'r rhain wedi'u cofrestru gyda gwarcheidwaid i sicrhau bod y batris a’r padiau’n cael eu harchwilio’n rheolaidd.

§    Cyhoeddwyd cyllid ychwanegol o £500,000 ar 15 Medi 2021 i brynu bron 500 o ddiffibrilwyr ychwanegol. Bydd grwpiau a sefydliadau cymunedol yn gallu gwneud cais i gael dyfais gan Achub Bywyd Cymru.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Deisebau hefyd yn tynnu sylw at waith Achub Bywyd Cymru, ac yn tanlinellu’r angen i gofrestu diffibrilwyr. Mae'n tynnu sylw at offeryn mapio ar-lein y gellir ei defnyddio i chwilio am leoliad diffibrilwyr yn ôl cod post neu dref / dinas.    

Mewn perthynas ag ysgolion yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn dweud:

Er y gallai fod yn briodol i ddiffibrilwyr gael eu lleoli y tu allan i adeiladau ysgolion, efallai nad hwn fyddai'r opsiwn gorau bob amser a chredaf ei bod yn bwysicach bod yr offer hwn yn cael ei leoli mewn ardal a nodwyd yn lleol fel yr un fwyaf hygyrch i'r cyhoedd.

3.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Ar 15 Medi 2021, cynhalioddy Ceidwadwyr Cymreigddadl ynghylch mynediad at ddiffibrilwyr

Ym mis Gorffennaf 2015 cyhoeddodd y Pedwerydd Cynulliad adroddiad ar ei drafodaeth ar ddeiseb P-04-471: Deddfwriaeth Gymreig orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus

Mae Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwn hefyd ar gael.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.